Mae’r gwahaniaeth y mae SEAS yn ei wneud i fywydau’r anabl, eu teuluoedd a’u gofalwyr yng Ngogledd Cymru a’r galw am weithgareddau SEAS wedi’i gydnabod unwaith eto gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Maent wedi dyfarnu grant o £47,000 i SEAS tuag at brosiect dwy flynedd i gyflogi Rheolwr Gweithrediadau ar gytundeb llawn amser 0.5 i reoli pob agwedd o weithgareddau SEAS.
Mae model cynwysoldeb SEAS wedi’i gydnabod fel un hynod effeithiol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae SEAS eisoes yn gweithio'n agos gyda sefydliadau partner, clybiau a chyrff llywodraethu chwaraeon i helpu i ymestyn eu cynwysoldeb. Bydd ein Rheolwr Gweithrediadau yn gyrru’r cydweithredu hynny ymhellach fyth, gan ehangu’r cyfleoedd i bobl anabl, eu teuluoedd a’u gofalwyr ar draws sbectrwm o chwaraeon a gweithgareddau nad oedd ar gael iddynt yn flaenorol.
Os credwch fod gennych yr hyn sydd ei angen i fod yn Rheolwr Gweithrediadau SEAS, i drefnu, gweinyddu, goruchwylio a rhedeg gweithgareddau SEAS ac i hyrwyddo ein hachos. Mae'r hysbyseb swydd a'r fanyleb ar wefan SEAS ar www.seassailability.org.uk . I wneud cais, anfonwch CV cyfredol ynghyd â llythyr eglurhaol manwl yn egluro sut yr ydych yn bodloni’r fanyldeb swydd (uchafswm o 1000 o eiriau) at seassailability@yahoo.org.uk
SEAS a'r Loteri Genedlaethol ar y dŵr. Newid pethau a darparu mwy.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 21 Gorffennaf 2023.
Comments