Mae SEAS yn cefnogi unigolion anabl o Ogledd Cymru i fod yn actif a chael anturiaethau ar y Fenai mewn amgylchedd diogel a chymdeithasol.
​
Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd teulu a gofalwyr ym mywydau pobl anabl, ac mae SEAS yn ymrwymedig i ddarparu profiadau a rennir.
Rydym yn gwneud hyn drwy godi arian a drwy weithio gyda’n sefydliad partner, Canolfan Conwy; Ynys Môn (rhan o Edsential CiC) sy’n cynnal ein digwyddiadau hwylio.
​
Rydym yn gweithio’n agos gyda Royal Yachting Association Cymru a Phartneriaeth Awyr Agored y Bartneriaeth Awyr Agored i hyfforddi gwirfoddolwyr a’u cymhwyso, gyda nifer ohonynt yn deulu/gofalwyr, fel eu bod yn gallu bod yn rhan weithredol o gynnal y digwyddiadau a’u harwain. Mae gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl yn ganolog i bopeth a wnawn.
​
Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer 2023 yn cael ei diweddaru, ac rydym yn ar hyn o bryd yn gweithio ar weithredu’r adborth a dderbyniwyd ar ddiwedd 2022.
Mae ein digwyddiadau yn gyfyngedig i uchafswm o 50 o bobl. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n grwpiau defnyddwyr ac yn ymgysylltu â’n gwirfoddolwyr i sicrhau bod y lleoedd hyn yn cael eu dyrannu mor deg a phriodol â phosibl. Rydym yn parhau yn Ymwybodol o Covid, ac mae ein gwirfoddolwyr wedi cwblhau hyfforddiant Cymdeithas Chwaraeon Cymru.
​
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, nid yw SEAS eisiau i bryderon ariannol fod yn rhwystr rhag cymryd rhan. Er mwyn sicrhau bod SEAS yn gynaliadwy rydym yn gofyn am gyfraniad dewisol o £3 y person ar gyfer pob digwyddiad.
Mae’r math o weithgaredd rydym yn ei wneud yn dibynnu ar ba mor uchel ydi’r llanw:
Rydym yn dod â’r cychod pŵer a chychod hwylio mawr allan pan rydym yn cynnal Digwyddiadau Dŵr Uchel. Yn ystod y digwyddiadau hyn rydych yn llawer llai tebygol o wlychu. Mae digwyddiadau dŵr uchel yn fwy addas os ydych yn gorfod aros yn eich cadair olwyn, neu os oes angen cefnogaeth ystumiol ychwanegol arnoch.
Rydym yn dod â’r canŵau, caiacau, byrddau padlo, a dingis hwylio allan yn ystod Digwyddiadau Dŵr Isel. Rydym hefyd yn cynnal hyfforddiant i wirfoddolwyr yn ystod y digwyddiadau hyn.
Digwyddiadau Dŵr Canolig yw pan fo cychod mawr yn cael eu defnyddio yn unig fel rhan o’r digwyddiad felly bydd cymysgedd o gychod mawr a bach allan.
​
Nid ydym yn hoffi canslo neu newid dyddiad digwyddiad onid yw’n gwbl angenrheidiol. Os yw’r tywydd yn wael mae gennym ystod o weithgareddau eraill i’w gwneud megis dringo dan do, cyrsiau rhaffau, gwifrau zip, coedwriaeth ayyb.
Rydym yn ddiolchgar iawn o fod wedi derbyn cyllid, a chymorth gan y Loteri Genedlaethol, Partneriaeth Awyr Agored, Cronfa Addysg Thomas Howels Gogledd Cymru, Chwaraeon Cymru, Ymddiriedolaeth Cychod Wheely, Cronfa Gymunedol y Co-op, Akzo Nobel, Sefydliad Elusennol Barchester ac O' Shea Surf DIOLCH!!